Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Mai 2022

SL(6)197 Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (“y Ddeddf”). Mae’r Deddf yn nodi'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol, a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Diben y Rheoliadau Diwygio 2022 yw gohirio, tan 31 Hydref 2022, y gofyniad i ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiad blynyddol mewn perthynas â phob un o flynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21 a 2021-22, pan fyddant wedi'u cofrestru o dan Ddeddf 2016, i Weinidogion Cymru (yn ymarferol, i Arolygiaeth Gofal Cymru). Maent hefyd yn lleihau’r cynnwys sy’n ofynnol ar gyfer datganiadau blynyddol 2021-22, yn unol â’r gofynion ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Mae gwasanaethau a reoleiddir yn cynnwys cartref gofal, llety diogel, canolfan breswyl i deuluoedd, mabwysiadu, maethu, lleoli oedolion, eiriolaeth a reoleiddir a gwasanaeth cymorth cartref.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 25 Ebrill 2022

Fe’u gosodwyd ar: 27 Ebrill 2022

Yn dod i rym ar: 20 Mai 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Mai 2022

SL(6)199 Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn diwygio:

§  Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (OS 2015/1484) “Rheoliadau 2015”, a

§  Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (OS 2018/191) (“Rheoliadau 2018”).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau i ddarparu’r sail ar gyfer y system o gymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yn y DU, a myfyrwyr eraill sy’n astudio yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 2015 yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd. Terfynau ffioedd yw’r uchafswm y bydd rhaid i berson cymhwysol ei dalu i sefydliad am ymgymryd â chwrs cymhwysol.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2015 “i adlewyrchu’r polisi cywir bod Dinasyddion Gwyddelig yn bersonau cynhwysol o dan Reoliadau 2015 os ydynt yn ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd”.

Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Awst 2018. 

Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau 2018 i gywiro mater a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad dyddiedig 14 Chwefror 2022.  Mae Atodlen 4 o Reoliadau 2018 yn cyfeirio at “fyfyriwr cymwys” ond dylai gyfeirio at “fyfyriwr ôl-raddedig cymwys”.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Fe’u gwnaed ar: 25 Ebrill 2022

Fe’u gosodwyd ar: 27 Ebrill 2022

Yn dod i rym ar: 25 Mai 2022